GWALLT PRIODAS
AI FI YW'R DEWIS CYWIR AR GYFER EICH PRIODAS?
Proses archebu ddi-lol, hawdd a phroffesiynol. Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw anfon ymholiad trwy'r wefan.
​
Ydych chi'n chwilio am rywun sy'n arbenigo mewn steiliau gwallt sydd â gwead, yn fodern, yn fythol ac yn chic?
Steilydd sy'n gweithio gyda'r briodferch a'i chriw priodas ac yn ecsgliwsif i chi ar ddiwrnod eich priodas.
​
Rhywun â phrofiad sy'n gallu darparu bore di-straen.
​
​
Y BRIODFERCH & 4 MORWYN / MAM​
Treial steilio gwallt ar gyfer y briodferch.
​
Gwasanaeth ar leoliad ar ddiwrnod y briodas.​
​
Cyngor ar gyfer paratoi ar fore'r briodas.​
​
Steilio gwallt i'r briodferch ar fore'r briodas.
Gosod clip estyniad gwallt os oes angen.
Gosod clipiau ychwanegol a'r gorchudd (veil) i'r gwallt .
​
Steilio gwallt i'r 4 forwyn / mamau.
Gosod clip estyniad gwallt os oes angen.
Gosod clipiau ychwanegol i'r gwallt.
Morwyn fach o dan 4 oed yn gynwysedig.
​
Sicrhau fod popeth yn ei le i'r criw priodas.
​
​
£495
​
YCHWANEGOL
​
Treial ychwanegol i'r briodferch
£100
​
Gwesteion ychwanegol
£60
​
Treial i'r morynion / mam y briodferch/ mam y priodfab
£50
​
Morwyn fach 5-12 oed
£28
​
​
Gall prisiau newid, dim ond cyfraddau cytundebol sydd ar eich cadarnhad gall eu gwarantu.
​
Mae ffi archebu o £100 er mwyn sicrhau'r dyddiad. Bydd hwn yn cael ei dynnu i ffwrdd o'r bil terfynol.
Dylid talu am y treial ar y diwrnod.
Gordaliadau: £50 ar Wyliau Banc a dyddiau Sul.
​
Beth ydych angen ei wybod am fore'r briodas?
AMSERLEN Y DYDD
Ar fore eich diwrnod mawr, caniatewch ddigon o amser:
15 munud - cyrraedd a gosod popeth yn barod
45/60 munud yr un i'r morynion/mamau
60/90 munud i'r briodferch
60 munud i sicrhau fod popeth yn berffaith!
Y CAMAU NESAF...
1
Sicrhau'r dyddiad
Ydych chi'n barod i archebu'r dyddiad?
Llenwch y ffurflen gan roi'r manylion i gyd i mewn.
Talu'r ffi £100 a derbyn cadarnhad gyda'r telerau ac amodau.
Dylai'r treial gael ei dalu ar y diwrnod, £100.
Dylai gweddill yr anfoneb gael ei dalu bythefnos cyn y briodas mewn un taliad.
Croeso i chi gysylltu drwy ebost os hoffech chi wybod mwy.
2
Y treial
Byddaf yn anfon ebost atoch i drefnu eich treial, fel arfer tua 12-16 wythnos cyn y briodas.
Yn ystod y treial, byddem ni'n gweithio gyda'n gilydd i greu eich edrychiad priodas personol.
Byddwn yn ystyried popeth o'r ffrog i thema'r briodas.
Byddwn yn edrych ar eich lluniau i gael ysbrydoliaeth ac yn creu'r ddau ddewis gorau.
Yna byddwn yn gorffen gydag amserlen ar gyfer y diwrnod mawr.
3
Y diwrnod mawr
Bydd popeth yn cael ei gadarnhau cyn y diwrnod, gan nodi popeth o'r amser y byddaf yn cyrraedd i'r adeg y byddwch yn barod am y seremoni. Felly, yr oll fydd angen i chi ei wneud ydy mwynhau pob eiliad.