top of page

AMDANAF I

sararoberts-3.JPG

SARA ROBERTS
 

 STEILYDD GWALLT PRIODAS YNG NGOGLEDD CYMRU

Helo, Sara ydw i!

 Fel arbenigwraig gwallt priodas, mae'n anrhydedd i mi gael bod yn rhan o'ch diwrnod arbennig.

 

Rwyf wrth fy modd yn dod i adnabod y briodferch cyn y diwrnod mawr.  Byddaf gyda chi nes y byddwch yn gadael i fynd i'r seremoni.
 

Gyda 17 mlynedd o brofiad, rwyf wedi neilltuo amser i berffeithio fy nghrefft ac mae gennyf ddigon o brofiad i wneud eich bore mor rhwydd â phosib. Byddwch chi'n mynd i'r briodas gyda gwallt rydych chi'n ei garu.
 

Fy nod yw i roi'r gwallt delfrydol i chi a'ch criw priodas. Rwy'n arbenigo mewn steiliau gwallt modern, glân a gyda gwead. Rydych chi'n haeddu'r gorau ar ddiwrnod eich priodas. 
 

Rwyf hefyd yn addysgwr ac yn aseswr cymwysedig, felly os hoffech chi wella eich sgiliau, ewch i’r adran hyfforddiant. Byddwn wrth fy modd yn clywed gennych.

Sara x

awards.jpg
featured(1)_edited.png
brides up north.png
bottom of page